Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Medi 2016
Amser: 09. - 12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3716
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Matthew Howells, Association of Police Officers Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Jon Antoniazzi (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Jonathan Baxter Katie Wyatt Hannah Johnson |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Datganodd Janet Finch-Saunders AC fuddiant fel landlord yn y sector rhentu preifat
2.1 The Committee received evidence from:
Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Ffyniant
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ddilyn i fyny ar y pwyntiau a godwyd yn ystod trafodaethau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan::
· Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
· Jo-anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymmunedau & Trechu Tlodi
· John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio
3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor:
· ynghylch canlyniad ei drafodaeth a drefnwyd gyda Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ffoaduriaid Syria ar rôl Llywodraeth Cymru o ran adsefydlu ffoaduriaid, yn enwedig plant ar eu pennau'u hunain.
· a gyda manylion amseroedd ar gyfer y bwriad i gyflwyno Bil Hawliau Prydain gan Lywodraeth y DU cyn gynted ag y byddant ar gael, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dylanwadu ar ddatblygiad Bil o'r fath
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth gan:
· Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
· Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
6.1 Trafododd y Pwyllgor a chytunwyd ar y llythyr drafft ar y Mesur Llywodraeth Cymru DU.